SL(6)212 – Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2022

Cefndir a diben

O dan bwerau sy’n deillio o adran 537A o Ddeddf Addysg 1996, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n dynodi personau (“Personau Rhagnodedig”) y gallant rannu data am ddisgyblion ysgol â hwy. 

Mae’r Personau Rhagnodedig wedi’u rhestru yn rheoliad 5(2) o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”)  Mae'r rhestr yn cynnwys, ymhlith eraill: awdurdodau lleol, Cymwysterau Cymru a'r Asiantaeth Ariannu Addysg a Sgiliau.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2007 i ychwanegu Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (“UCAS”) at y rhestr o Bersonau Rhagnodedig. 

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn darparu mai diben y Rheoliadau yw caniatáu i Weinidogion Cymru rannu data prydau ysgol am ddim cysylltiedig â disgyblion sy’n gadael yr ysgol gydag UCAS “i gynorthwyo gyda derbyniadau i brifysgolion er mwyn sicrhau bod cynigion yn cael eu gwneud i ddysgwyr difreintiedig a bod cyfranogiad mewn Addysg Uwch yn cael ei ehangu”.  Mae’n darparu ymhellach fod y diwygiad yn angenrheidiol i sefydlu sail gyfreithiol o dan ddeddfwriaeth diogelu data ar gyfer rhannu data o’r fath.

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd. 

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn na chynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

Bernir bod y gwaith diwygio hwn yn un brys er mwyn cael data yn eu lle ar gyfer ei ddefnyddio gan brifysgolion yn y broses glirio a chadarnhau ym mis Awst.  Felly ni fyddai unrhyw ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar gam ffurfiannol y broses o ddatblygu polisi […] ac felly ni chafodd ei ystyried yn briodol yn yr achos hwn.

Er bod y Memorandwm Esboniadol yn egluro pam mae’r Rheoliadau’n fater o frys cymharol, nid yw’n esbonio pam maent wedi dod yn fater o frys.  Nid yw’r Memorandwm Esboniadol yn egluro pam na chafodd y Rheoliadau eu gwneud yn gynt, yn barod ar gyfer proses glirio’r prifysgolion ym mis Awst.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

20 Mehefin 2022